Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 30 Ebrill 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 12.08 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies AC (Cadeirydd) Peter Black AC Christine Chapman AC Paul Davies AC Mike Hedges AC Alun Ffred Jones AC Ann Jones AC Julie Morgan AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Nicola Evans, Swyddfa Archwilio Cymru Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Minister for Economy, Science and Transport Rob Hunter, Llywodraeth Cymru Terry Jones, Swyddfa Archwilio Cymru Kevin Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Richard Bettley (Ymchwilydd) Helen Jones (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil
Ystyriodd yr Aelodau y papur briffio ar y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru) a chytunwyd na fyddent yn gwahodd yr Aelod sy’n gyfrifol (Darren Millar AC) i ateb cwestiynau am oblygiadau ariannol y Bil oni bai bod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn nodi pryderon yn ystod ei gyfnod o graffu ar y Bil.
2 Cyllido Addysg Uwch: Trafod yr adroddiad drafft
2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau.
3 Swyddfa Archwilio Cymru: Sesiwn friffio ar y trefniadau newydd yn deillio o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013
3.1 Rhoddodd Swyddfa Archwilio Cymru wybodaeth i’r Pwyllgor am ei chynllun ffioedd a graddfeydd y ffioedd hynny.
4 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
4.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Nodwyd y papurau.
5.1 Bil Cymru: Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru (20 Mawrth 2014)
5.2 Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-2014: Llythyr gan y Gweinidog Cyllid (14 Ebrill 2014)
5.3 Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Cyllid Cymru (Ebrill 2014)
5.4 Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Brecwast Rhanddeiliaid Cyllid Cymru
6 Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Sesiwn dystiolaeth 5
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth am yr ymchwiliad i Cyllid Cymru.
6.2 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i anfon nodyn ar y canlynol:
· Canran y busnesau a gyfeiriwyd at Cyllid Cymru o’r sector bancio a sectorau proffesiynol eraill.
· Y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad a gynhelir gan Robert Lloyd-Griffiths, a’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a gyflawnwyd hyd yma.
· I anfon copi o’r adroddiad ar gyfraddau llog.
· Ystadegau o ran y categorïau o fusnesau sydd wedi cael arian gan Gyllid Cymru.
· Rhestr sy’n nodi’r ffynonellau arian sy’n cyfrannu at Gyllid Cymru, a’r enillion a ddisgwylir.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8 Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Trafod y dystiolaeth a gafwyd
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.